Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin

CAP 3 - WLGA
CYFLWYNIAD

 

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru ac mae awdurdodau’r tri pharc cenedlaethol, y tri gwasanaeth tân ac achub a’r pedwar heddlu’n aelodau cyswllt.

 

2.        Ei nod yw cynrychioli’r awdurdodau lleol yn ôl fframwaith polisïau sy’n cyd-fynd â phrif flaenoriaethau ei haelodau.  At hynny, mae’n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n ychwanegu gwerth at fyd llywodraeth leol a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

 

3.        Cyhoeddodd Comisiwn Ewrop ei reoliadau arfaethedig ynglŷn â’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a datblygu gwledig ar 12fed Hydref.  Felly, mae WLGA yn croesawu’r cyfle i gyfrannu i ymchwiliad y Cynulliad am y bwriad i newid y Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP).  Rydyn ni’n gweld nod yr ymchwiliad – gweithredu’n fforwm fydd yn galluogi’r bobl gysylltiedig yng Nghymru i gymryd rhan yn y drafodaeth am dynged y polisi – yn un calonogol, hefyd.

 

4.        Mae’r ymateb hwn wedi’i lunio ar ôl ymgynghori â’r bobl berthnasol ym myd llywodraeth leol Cymru.  Mae byd llywodraeth leol yn ymwneud â lles cymunedau cefn gwlad gan gynnwys cyfraniad amaeth at yr economi yno.  Bydd WLGA yn ymateb i’r materion yn ôl amodau gorchwyl yr ymchwiliad.

 

Beth fyddai goblygiadau bwriad Comisiwn Ewrop i Gymru?

5.        Ynglŷn â philer cyntaf y polisi, mae WLGA yn mynegi peth pryder am ymdrechion yn y rheoliadau dros daliadau uniongyrchol i roi’r gorau i’r hen drefn yn sydyn a thalu fesul ardal yn ei lle.  Gallai hynny achosi anawsterau ariannol mawr i ffermwyr cefn gwlad yn ystod camau cynnar y rhaglennu.  Mae’r rheoliadau’n sôn am bontio dros 5 mlynedd ond byddai’n well gyda ni pe baen nhw’n rhoi rhwng 7-10 mlynedd ar gyfer pontio.

 

6.        Er bod rhaid canmol y pwyslais ar hybu arferion amgylcheddol a datblygu cynaladwy, mae WLGA yn mynegi ei phryder bod yr elfen honno’n ymwneud â 30% o’r taliadau uniongyrchol.  Gallai hynny arwain at rai cyfyngiadau, cwtogi ar hyblygrwydd, amharu ar gyfeiriad y farchnad ac ychwanegu at y gwaith papur.  Mae WLGA yn gofyn am ragor o hyblygrwydd trwy adael i ranbarthau ddewis sut mae dyrannu a rheoli taliadau uniongyrchol i’w ffermwyr nhw.  Bydden ni’n croesawu rhestr o ddewisiadau yn hytrach na dyraniadau gorfodol ar gyfer deilliannau sydd wedi’u pennu yn barod.

 

7.        O ran ail biler y polisi, mae WLGA yn croesawu’r rheoliadau arfaethedig ynglŷn â datblygu gwledig, ar y cyfan.  Yn arbennig, rydyn ni’n croesawu’r pwyslais ar wneud amaeth yn fwy cystadleuol a’r bwriad i sefydlu fframwaith strategol cyffredin a ddylai helpu i symleiddio polisïau datblygu gwledig, helpu i gyflawni amcanion sy’n gyffredin trwy gysoni Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig â Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop, a helpu i ofalu bod rhaglenni datblygu gwledig yn cydblethu ar lawr gwlad â chronfeydd eraill sy’n cael eu rheoli ar y cyd, a hynny trwy bartneriaethau a strategaethau lleol.

 

8.        Ar ben hynny, mae WLGA yn croesawu ymdrechion i gysylltu’n fwy effeithiol â meysydd eraill, megis cydlyniant, i ofalu y bydd buddion cymdeithasol ehangach yng nghefn gwlad.  Nid dim ond trwy’r cynllun datblygu gwledig y dylai economi ehangach cefn gwlad gael cymorth ariannol.  Mae rôl i bob un o’r cronfeydd sydd wedi’u nodi uchod ynglŷn â hynny.

 

9.        Fel sydd wedi’i amlinellu yn ymateb WLGA i’r ymgynghori gan Gomisiwn Ewrop am dynged proses asesu effeithiau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin fis Ionawr 2011, mae WLGA o blaid y diffiniad o bolisi datblygu gwledig eang sy’n mynd y tu hwnt i bolisïau amaethyddol er mwyn adlewyrchu’r amryw bethau sy’n sbarduno economi cefn gwlad.  Hoffai WLGA weld polisi amaethyddol cryf sy’n rhoi rhagor o ystyriaeth i anawsterau cymdeithasol yn economi ehangach cefn gwlad – megis agweddau amgylcheddol a diogelwch ac ansawdd bwyd – yn ogystal â chydlyniant cymdeithasol yno.

 

10.     Mae WLGA yn croesawu’r cynnig y dylai ail biler y polisi gydblethu â’r taliadau uniongyrchol yn y piler cyntaf a chronfeydd eraill Undeb Ewrop.  Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i drosglwyddo arian rhwng y pileri hefyd, achos y gallai hynny arwain at ragor o hyblygrwydd yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn y dyfodol.

 

11.     Mae WLGA yn cefnogi’r farn y bydd rhagor o hyblygrwydd i gyflawni nodau rhaglenni datblygu gwledig o ganlyniad i sefydlu chwech amcan eang ar eu cyfer, yn unol â nodau Ewrop 2020, yn lle strwythur tair echel.

 

12.     At hynny, mae WLGA yn cefnogi’r bwriad i ganolbwyntio ar dri amcan craidd ar gyfer rhaglenni datblygu gwledig sef gwneud amaeth yn fwy cystadleuol, rheoli adnoddau naturiol yn gynaladwy a datblygu’n gytbwys ar draws ardaloedd gwledig.  Mae angen trin a thrafod datblygu lleol trwy drefn lorweddol i roi cymorth effeithiol i economïau cefn gwlad Cymru a gwneud ardaloedd gwledig yn lleoedd deniadol a chynaladwy i fyw a gweithio ynddyn nhw.

 

13.     Mae WLGA yn croesawu’r ffaith y bydd rhagor o sylw i arloesi yn y rheoliadau newydd hefyd, yn arbennig y bwriad i sefydlu partneriaeth arloesi yn Ewrop dros gynhyrchedd a chynaladwyedd amaethyddol.  Dylai’r bartneriaeth helpu i ddatblygu isadeiledd lleol a gwasanaethau sylfaenol gan helpu ardaloedd gwledig i gyflawni eu llawn dwf a bod yn fwy cynaladwy.  Gallai helpu i gyflwyno cyfleusterau band eang cyflym a chyflym iawn hefyd, ac mae hynny’n hollbwysig i gefn gwlad Cymru.  Gallai’r syniad o roi ‘gwobrau’ i brosiectau cydweithio lleol sy’n arloesi fod yn sbardun effeithiol i ardaloedd gwledig.  Mae WLGA yn argymell y dylai cylchoedd gweithredol Rhaglen Mentergarwch ac Arloesi Ewrop ddefnyddio’r partneriaethau a’r rhwydweithiau sydd yng Nghymru yn barod yn hytrach na sefydlu rhai ychwanegol.

 

14.     Mae WLGA o blaid parhau â LEADER hefyd, a dylai fod yn orfodol ei ddefnyddio ym mhob rhaglen ddatblygu gwledig o hyd.  Bydd LEADER a dulliau rhwydweithio’n parhau i gyflawni rôl bwysig, yn arbennig o ran datblygu ardaloedd gwledig a hybu arloesi.  Fe ddylai Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig ariannu LEADER ynglŷn â phob agwedd ar lunio strategaethau datblygu lleol a’u rhoi ar waith yn ogystal â helpu tiriogaethau a chylchoedd sy’n ymwneud â datblygu o’r bôn i’r brig ac yn y gymuned i gydweithio yng Nghymru.

 

15.     Mae WLGA yn cefnogi’n gryf y gydnabyddiaeth yn rheoliadau’r datblygu gwledig o rôl byd llywodraeth leol ynglŷn ag elfen strategol y rhaglenni sydd i ddod.  Rydyn ni’n awyddus iawn i ofalu y bydd hynny’n arwain at gyfle i weithio ar y cyd ar lawr gwlad yng Nghymru wrth baratoi cynllun datblygu gwledig newydd y wlad hon.

 

16.     Mae byd llywodraeth leol wedi cyflawni rôl allweddol ynglŷn â chyflawni nodau Cynllun Datblygu Gwledig Cymru, yn arbennig echelau 3 a 4 sy’n ymwneud â gweithgareddau ehangach datblygu gwledig, a bydd yn parhau i wneud hynny.  Trwy weithredu’n gyrff arweiniol ar ran partneriaid lleol, llunio strategaethau datblygu gwledig, dechrau a datblygu prosiectau, goruchwylio prosiectau llwyddiannus a gofalu bod partneriaid yn ymgysylltu â’i gilydd, mae’r awdurdodau lleol wedi cyflawni rôl hanfodol yn llwyddiant y cynllun datblygu gwledig presennol.  Mae’u rôl nhw o ran ariannu echelau 3 a 4 ledled Cymru wedi bod yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun presennol.  Heb y cymorth hwnnw, fyddai’r cynllun ddim wedi cyflawni’r nodau.  Yn eu rôl arweiniol i helpu partneriaethau lleol i gyflawni nodau’r cynllun, bu modd i’r awdurdodau lleol hwyluso proses cyfuno’r arian yn strategol ar lawr gwlad trwy ofalu bod y partneriaethau lleol yn defnyddio amryw ffrydiau ariannu Undeb Ewrop yn y ffordd orau, gan gynnwys y Cronfeydd Strwythurol, fel y gallai pob ffrwd gynorthwyo ei gilydd.  O ganlyniad, maen nhw mewn sefyllfa dda i hwyluso, cynnal a defnyddio proses cyfuno’r arian ar lawr gwlad, yn ôl disgwyl y fframwaith strategol cyffredin arfaethedig, wrth fanteisio ar ffrydiau ariannu Undeb Ewrop yn y dyfodol.

 

17.     Yn sgîl hynny, rhaid cydnabod rôl allweddol byd llywodraeth leol yn llwyddiant y cynllun datblygu gwledig presennol, yn arbennig echelau 3 a 4.  Ar ben hynny, dylai byd llywodraeth leol gael cymryd rhan flaengar ynglŷn â llunio’r ffyrdd mwyaf effeithiol a phriodol o roi’r cynllun newydd ar waith yng Nghymru.  Felly, gofynnwn ni i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei syniadau i fyd llywodraeth leol o ran sut dylai’r cynllun newydd fynd rhagddo.


Pa flaenoriaethau y dylai Llywodraeth Cymru eu pennu ar gyfer ei thrafodaethau am newid y Polisi Amaethyddol Cyffredin i ofalu y byddan nhw o les i Gymru?

 

18.     Mae’r rheoliadau ar gyfer ariannu datblygu gwledig a datblygu strwythurol fel ei gilydd yn cynnig y dylai Comisiwn Ewrop a’r gwledydd sy’n perthyn iddo ddod i gytundeb fydd yn pennu’r camau, y deilliannau a’r ymrwymiadau i nodau Ewrop 2020.  Dylai peth arian fod yn amodol ar effeithlonrwydd.  Bydd rhaid i’r cytundebau gynnwys dadansoddiad o’r datblygu mae’i angen ar bob gwlad a chrynodeb o sut dylai Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a chronfeydd eraill, gael eu defnyddio.  Ar ben hynny, bydd asesiad o’r camau mae bwriad i’w cymryd i leddfu’r baich gweinyddol ar y rhai sydd i elwa ar yr ariannu a’r awdurdodau sy’n gyfrifol am reoli a goruchwylio’r rhaglenni.

 

19.     Byddai’n well gan WLGA pe gallai Cymru a Chomisiwn Ewrop ddod i gytundeb fel mai Cymru fyddai’n atebol am reoli a defnyddio’r rhaglenni ariannu newydd, yn hytrach na’r DG.  Felly, dyma annog Llywodraeth Cymru yn gryf i lobïo dros gytundeb partneriaeth rhwng Cymru a Chomisiwn Ewrop.

 

20.     Os yw Comisiwn Ewrop a’r gwledydd sy’n perthyn iddo’n mynnu mai rhyngddyn nhw y dylai’r cytundebau partneriaeth fod, fodd bynnag, bydd yn hanfodol i Lywodraeth Cymru gymryd rhan flaengar ym mhroses llunio’r rhai sy’n berthnasol i’r DG er mwyn gofalu bod materion penodol cefn gwlad Cymru yn cael eu cydnabod yn llawn.  Bydd yn bwysig gofalu bod cyrff rhanbarthol a lleol yn cael cyfrannu i’r cytundebau ac, felly, rydyn ni’n croesawu’r cynnig yn y rheoliadau fod rhaid i gyrff o’r fath helpu i’w llunio.

 

21.     Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am ddigon o hyblygrwydd rhanbarthol a lleol i reoli arian yma hefyd, a gofalu bod y ddysgl yn wastad rhwng cyflawni nodau Ewrop 2020 a mynd i’r afael â materion lleol.  Bydd hyblygrwydd yn bwysig ynglŷn â neilltuo arian ar gyfer y pethau mae’r angen mwyaf arnyn nhw.

 

22.     At hynny, dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu’r galw am raglenni datblygu gwledig treigl a symlach, heb oedi na bylchau yn yr ariannu, er mwyn cysoni hynt y rhaglenni a chael sêl bendith Comisiwn Ewrop ar raglenni lleol a gwladol yn gyflymach.

 

23.     Er ein bod yn croesawu’r syniad o roi peth arian yn amodol ar effeithlonrwydd rhaglenni gwledydd sy’n perthyn i Gomisiwn Ewrop, mae WLGA yn mynegi pryder am oblygiadau rhyddhau cymaint o arian (5% o gyfraniad cyfan Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig at bob rhaglen ddatblygu gwledig) mor hwyr yng nghyfnod y rhaglen (2019).  Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am ragor o eglurhad ynglŷn â’r cynnig hwn a’i oblygiadau i raglenni datblygu gwledig ar lawr gwlad.

 

24.     Bydden ni’n croesawu rhagor o eglurhad am ddyrannu arian y gronfa ymhlith yr amryw wledydd, hefyd.  Gan fod y DG yn cael cymorth yn ôl cyfradd isaf y gronfa fesul hectar ar hyn o bryd, dylai’r dyrannu ar gyfer y cyfnod nesaf adlewyrchu’r hyn gafodd ei gyflawni â chyfanswm yr arian oedd ar gael i’r rhaglenni blaenorol yn hytrach na’r dyraniadau craidd.  Felly, dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gynnydd yng nghyfran y DG a Chymru ynglŷn a’r arian y bydd Undeb Ewrop yn ei ddyrannu i ddibenion datblygu gwledig.

 

25.     Rydyn ni’n cydnabod ac yn croesawu’n llwyr ymrwymiad ariannol Llywodraeth Cymru yn llwyddiant ein cynllun datblygu gwledig presennol, a hoffen ni i hynny barhau.

 

Sut gall Cymru ofalu y bydd ei sylwadau’n dylanwadu ar y trafodaethau?

26.     Hoffai WLGA bwysleisio bod angen i bawb weithio ar y cyd ar lefelau Cymru, y DG ac Ewrop yn ystod y trafodaethau am y Fframwaith Strategol Cyffredin a’r rhaglenni datblygu gwledig.

 

27.     Ar lefel Cymru, hoffai WLGA gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i baratoi cynllun datblygu gwledig newydd Cymru a modd ei roi ar waith.  Felly, rydyn ni am gymryd rhan flaengar yn y cynllunio, y paratoi a’r gweithredu.  Yn y cyd-destun hwnnw, mae ymrwymiad y Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i sefydlu trefn gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a byd llywodraeth leol yn galonogol iawn.

 

28.     Ar lefel y DG, rydyn ni’n cefnogi’n gryf negeseuon allweddol y datganiad gyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon fis Ionawr 2011.  Beirniadodd y datganiad safbwynt Llywodraeth San Steffan ynglŷn â newid y Polisi Amaethyddol Cyffredin, a gofyn iddi ei ailystyried yn ôl y tair blaenoriaeth isod:

·         cael cyfran deg o gyllideb y polisi;

·         gofalu y bydd hyblygrwydd rhanbarthol yn ei ddau biler;

·         symleiddio’r polisi.

 

29.     Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Amaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Undeb Ewrop wedi mynd i nifer o gyfarfodydd Cyngor Amaethyddol Undeb Ewrop yn barod.  Rydyn ni’n ei annog i barhau i’w mynychu a dadlau o blaid Cymru yn y trafodaethau dros y misoedd nesaf.

 

30.     Ar lefel Ewrop, hoffai WLGA bwysleisio y bydd angen i bawb sy’n cynrychioli Cymru barhau i weithio ar y cyd.  Bydd swyddogion WLGA yn cydweithio’n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru yn Nhŷ Cymru, Brwsel, wrth geisio taro’r fargen orau i Gymru yn y trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan a Chomisiwn Ewrop.  Bydd yn bwysig cysylltu a siarad yn aml â’r rhai sy’n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop hefyd, yn arbennig gan fod y Polisi Amaethyddol Cyffredin i’w fabwysiadu trwy weithdrefn benderfynu ar y cyd am y tro cyntaf.  Allwn ni ddim ond cryfhau dylanwad Cymru yn y trafodaethau am y polisi a’r rhaglenni datblygu gwledig trwy ofalu y bydd cydweithio clos, trafod strategol ac ymgynghori digonol ymhlith prif fudd-ddalwyr y wlad hon.


Mae rhagor o wybodaeth gan:

 

Lowri Gwilym – Rheolwr Carfan Materion Ewrop ac Adfywio

lowri.gwilym@wlga.gov.uk

Ffôn: 029 2046 8676

 

Iwan Williams– Swyddog Polisïau a Chyfathrebu ynglŷn â Materion Ewrop

iwan.williams@wlga-brussels.org.uk

Ffôn: 0203 328 0962

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol

Rhodfa Drake

Caerdydd

CF10 4LG